Aelodau Newydd/New Members

Tua 60 o aelodau sydd yng Nghôr Caerdydd, ac y mae croeso bob amser i aelodau newydd i ymuno â ni. Mae'r côr yn canu pob math o gerddoriaeth, o ganeuon Abba a Ryan Davies i emynau Negroaidd a gweithiau clasurol megis ail symffoni Mahler.

Eleni mae Côr Caerdydd yn dathlu 15 mlynedd ers sefydlu'r côr ar Ebrill 1af 1992.

Y mae'r côr wedi bod yn brysur iawn yn ystod 2007 ac yn ddiweddar ymddangosodd y cor ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd a Serendipity a Chôr Meibion Pontarddulais i ddathlu gyrfa Dennis O'Neill ar 25 Tachwedd 2007. Bydd y côr hefyd yn rhan o gôr unedig Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ynghyd a chorau eraill y brifddinas.

Ni'n gweithio'n galed ond yn hoff iawn o gymdeithasu hefyd.

Cynhelir ymarferion yng nghapel Methodistiaid Wesley, Cowbridge Road East (ar gornel Stryd Nottingham), bob nos Fercher am 8.00pm.
Mae croeso cynnes i aelodau newydd. Dewch draw - byddwch yn sicr o gael profiadau fythgofiadwy!




Côr Caerdydd has about 60 members, and we are always looking for new ones. We sing all types of music ranging from arrangements of songs by Abba and Ryan Davies, through negro spirituals to classical works such as Mahler's second Symphony.

This year sees Côr Caerdydd celebrating 15 years since it began on April 1st 1992.

We practice hard but we also have a lot of fun, and often get together socially during the year.

2007 has been a very busy year for the choir and Cor Caerdydd recently performed alongside Serendipity and Pontarddulais Male Voice Choir at the royal gala celebrating the career of Dennis O'Neill at the Wales Millennium Centre on November 25 2007. We will also be appearing as part of a mass choir consisting of 10 of the choirs situated in Cardiff in National Eisteddfod of Wales which will be held in Cardiff in August 2008.

We practice every Wednesday at 8pm at Wesley Methodist Church, Cowbridge Road East (on the junction with Nottingham Street), Cardiff. Welcome to any new members. Come and join us - you will be guaranteed experiences that you will never forget!