Ffurfiwyd
Côr Caerdydd gan Gwawr Owen ar Ebrill 1af 1992 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod
Genedlaethol Aberystwyth y flwyddyn honno.
Ar eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf, fe enillodd Côr Caerdydd y wobr
gyntaf yn y brif gystadleuaeth gorawl.
Maent wedi cystadlu yn y Genedlaethol bob blwyddyn ers hynny, ac wedi
ennill y wobr gyntaf naw gwaith. Maent hefyd wedi dod i’r brig yng Ngwyl Gorawl
Corwen a Gwyl Fawr Aberteifi.
Yn
ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Côr Caerdydd wedi datblygu perthynas agos
gyda’r cyfansoddwr hynod o lwyddiannus, Karl Jenkins. Clywir y côr ar CD Requiem Jenkins, ar
DVD Mass for Peace, ac maent wedi perfformio gyda’r cyfansoddwr yn
Neuadd Dewi Sant, y Royal Festival Hall a’r Gadeirlan yn Guildford. Yn ogystal,
perfformiwyd Mass for Peace mewn cyngerdd gala arbennig yng Nghanolfan
Mileniwm Cymru ar Fawrth 12ed 2006 gyda Karl Jenkins yn arwain.
Ar
deledu, gwelwyd Côr Caerdydd ar Songs of Praise, Dechrau Canu, Dechrau
Canmol, FA Classic, Noson Lawen, Y Croesholiad gan Stainer, , Gymanfa
o Gastell San Dunwyd, Codi’r Tô, Ar y Groesffordd gyda Bryn
Terfel, ac mae’r côr wedi ymddangos ar BBC
Radio Cymru, BBC Radio 2 yn Sunday Half Hour, Morning Service
ar BBC Radio 4, Symffoni rhif 9 Beethoven a Symffoni rhif 2 gan Mahler ar BBC
Radio 3 gyda Cherddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC.
Dros y
blynyddoedd mae Côr Caerdydd wedi cynnal cyngherddau ledled y wlad, nifer
ohonynt i godi arian at achosion da ac wedi recordio cryno ddisg. Mae’r repertoire yn cynnwys oratorios,
cytganau o operau, darnau clasurol, caneuon o’r sioeau, caneuon gwerin a
threfniannau o ganeuon poblogaidd.
Yn y
blynyddoedd diwethaf, mae Côr Caerdydd wedi ymddangos yn Choral Classics gyda’r
Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, canu o flaen cynulleidfa o bron i bum mil
mewn Classical Spectacular yn Arena Ryngwladol Caerdydd, y Proms Cymreig, Centenary Prom, canu o flaen
aelodau o’r teulu brenhinol, cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Gwasanaeth
Coffa’r Heddlu a nifer o gyngherddau elusennol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ymddangosodd Côr Caerdydd gyda Bryn
Terfel a Sinfonia Cymru mewn perfformiad o Symffoni rhif 9 gan Beethoven, yn y
BBC Proms yn Llundain a nifer o gyngherddau amrywiol.
Yn Mai 2007, teithiodd Côr Caerdydd
i Barga yn yr Eidal i berfformio Petite Messe Solonelle gan Rossini mewn cyngerdd a oedd ynghlwm ag Academi Cerdd Prifysgol
Caerdydd. Yn ogystal, cafwyd y gwaith ei pherfformio ar noson lwyddiannus tu hwnt yn Eglwys Sant German yn Adamsdown, Caerdydd ar 16 Mai 2007 o dan arweinyddiaeth Massimiliano Moralli ac yng nghwmni pedwar myfyriwr o'r Academi.
Eleni hefyd, mae Côr Caerdydd yn dathlu 15 mlynedd o ganu corawl safonol ac yn edrych ymlaen i ddathlu'r achlysur yn ystod y flwyddyn.
Daw
Gwawr Owen o Geredigion a bu’n ddisgybl yn Ysgol Yehudi Menuhin yn Surrey cyn
graddio mewn Cerddoriaeth o Goleg y Brenin Llundain a gradd bellach o Brifysgol
y Ddinas, Llundain. Treuliodd nifer o
flynyddoedd yn cynhyrchu rhaglenni cerdd i’r BBC, ac mae hi bellach yn gweithio
fel cynhyrchydd radio/teledu ar liwt ei hunan ac yn trefnu
cyngherddau/achlysuron cerddorol. Mae hefyd ynghlwm gyda Academi Llais Prifysgol Caerdydd, a gafodd ei sefydlu ym mis Ionawr 2007 o dan gyfarwyddyd y canwr byd enwog Dennis O'Neill CBE.