Hanes / Biography

Wedi’i leoli ym mhrifddinas Cymru, ffurfiwyd Côr Caerdydd gan ei harweinydd presennol, Gwawr Owen, ar Ebrill 1af 1992 ac mae wedi dod yn un o brif gorau cymysg Cymru gyda record gystadleuol dda iawn. Ar ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ym mis Awst 1992 enillodd Côr Caerdydd y wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth gorawl Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Mae’r côr wedi ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith ar ddeg, yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022.

Ar gyfer dathliadau pen-blwydd y côr yn ddeg ar hugain, comisiynodd Côr Caerdydd waith newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor a berfformiwyd ganddynt yn Nhregaron ac mewn cyngerdd arbennig yng Nghaerdydd i nodi pen-blwydd y côr ym mis Hydref eleni.

Dros y blynyddoedd mae Côr Caerdydd wedi ffurfio perthynas agos gyda’r cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins. Mae'r côr yn ymddangos ar recordiadau CD Requiem a Cantata Memoria ac ar y DVD o Offeren Heddwch Jenkins, gwaith y mae'r côr wedi'i berfformio gyda Jenkins yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant, y Royal Festival Hall, Royal Albert Hall yn Llundain ac yn y Cyngerdd Heddwch yn Berlin ym mis Tachwedd 2018. Bu’r côr yn cymryd rhan yn y perfformiad cyntaf o “The Bards of Wales” yn Budapest, y daith gyntaf o The Peacemakers gan Jenkins, a’r première teledu o Cantata Memoria gan Jenkins yn 2016 i goffau 50 mlynedd ers trychineb Aberfan. Mae Côr Caerdydd wedi canu mewn cyngherddau pen-blwydd i Syr Karl i ddathlu penblwyddi 60, 65, 70 a 75 ac wedi perfformio Offeren Heddwch yn gynharach eleni yn Neuadd Dewi Sant gyda Syr Karl.

Rhai uchafbwyntiau dros y blynyddoedd yn cynnwys dau berfformiad yn y BBC Proms, Beethoven 9 gyda Bryn Terfel, Mahler 2 gyda’r BBC NOW, canu yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis ac ymddangosiadau niferus yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn 2016 a 2022 perfformiodd y côr gyda Barry Manilow yn Arena Motorpoint Caerdydd ac yn 2016 recordiodd y côr draciau sain ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl yng Nghaerdydd.

Dramor, mae Côr Caerdydd wedi perfformio yn Fienna, Paris, Budapest, yr Eidal, Prâg, Romania, yn yr Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Aviles, Sbaen ac ym mis Hydref 2017 teithiodd i Wlad Belg ar gyfer cyfres o gyngherddau yn Bruges, Brwsel a Chadeirlannau Gent yn ogystal â chanu yn y Seremoni'r Post Olaf yn Ypres ac wrth fedd Hedd Wyn, y bardd o Gymru a laddwyd ar faes y gad yn Passchendaele.

Rhyddhawyd dwy gryno ddisg gan Gôr Caerdydd, y mwyaf diweddar yn 2012 o gerddoriaeth gorawl o Gymru – O Gymru. Mae’r CD yn adlewyrchiad hyfryd o gyfoeth treftadaeth gorawl Cymru gyda detholiad o gyfansoddiadau gan gerddorion Cymreig o Ivor Novello i Karl Jenkins ac o William Mathias i Paul Mealor.

Mae Côr Caerdydd yn ymddangos yn rheolaidd ar S4C, ac mae ymddangosiadau Teledu’r BBC yn cynnwys FA Classic a Songs of Praise. Mae darllediadau radio yn cynnwys Sunday Half Hour ar BBC Radio 2, Morning Service ar BBC Radio 4, ac ymddangosiadau amrywiol ar BBC Radio 3.

Addysgwyd Gwawr Owen yn Ysgol Yehudi Menuhin a graddiodd mewn cerddoriaeth o Goleg y Brenin Llundain a Gradd Meistr o Brifysgol Dinas Llundain. Treuliodd flynyddoedd lawer yn cynhyrchu rhaglenni cerddoriaeth i’r BBC ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel cynhyrchydd radio/teledu llawrydd.

 

Based in Wales’ capital city, Côr Caerdydd was formed by its present conductor, Gwawr Owen, on April 1st 1992 and has become one of Wales’ leading mixed choirs with a very fine competitive record.  On its first public appearance in August 1992 Côr Caerdydd won first prize in the Chief Choral competition at the National Eisteddfod in Aberystwyth.  The choir has gained first prize at the National Eisteddfod thirteen times, most recently at the Ceredigion National Eisteddfod in 2022.

For its thirtieth birthday celebrations, Côr Caerdydd commissioned a new work from composer Paul Mealor which they performed at a special concert in Cardiff to mark the choir’s birthday in October this year.

Côr Caerdydd has formed a close relationship with Welsh composer Karl Jenkins.  The choir appears on the CD recordings of Requiem and Cantata Memoria and on the DVD of Jenkins’ Mass for Peace, a work which the choir has performed with Jenkins at the Wales Millennium Centre, St. David’s Hall, the Royal Festival Hall, Royal Albert Hall in London and in the Concert for Peace in Berlin in November 2018. The choir was involved in the première of “The Bards of Wales” in Budapest, the première tour of Jenkins’ The Peacemakers, and the televised première of Jenkins’ Cantata Memoria in 2016 to commemorate 50 years since the Aberfan disaster.  Côr Caerdydd has sung in birthday concerts for Sir Karl to celebrate his 60th, 65th, 70th and 75th celebrations and performed the Mass for Peace earlier this year at St. David’s Hall with Sir Karl.

Concert highlights include two performances at the BBC Proms, Beethoven 9 with Bryn Terfel, Mahler 2 with the BBC NOW, singing at the British Embassy in Paris and numerous appearances at the Wales Millennium Centre.   In 2016 and 2022 the choir performed with Barry Manilow at Cardiff’s Motorpoint Arena and in 2016 recorded sound tracks for the Roald Dahl centenary celebrations in Cardiff.

Abroad, Côr Caerdydd has performed in Vienna, Paris, Budapest, Italy, Prague, Romania, at the Interceltic Festival in Aviles, Spain and in October 2017 travelled to Belgium for a series of concerts in Bruges, Brussels and Gent Cathedrals as well as singing in the Last Post ceremony in Ypres and at the grave of Hedd Wyn, the Welsh poet killed in action at Passchendaele.

The choir has produced two CDs, the most recent in 2012 of choral music from Wales – O Gymru.  The CD is a wonderful reflection of the wealth of Wales’ choral heritage with a selection of compositions by Welsh musicians from Ivor Novello to Karl Jenkins and from William Mathias to Paul Mealor.

Côr Caerdydd appears regularly on S4C, and BBC Television appearances include FA Classic and Songs of Praise. Radio broadcasts include BBC Radio 2’s Sunday Half Hour, Morning Service on BBC Radio 4, and various appearances on BBC Radio 3. 

Gwawr Owen was educated at the Yehudi Menuhin School and graduated in music from King’s College London and a Masters Degree from The City University London.  She spent many years producing music programmes for the BBC and currently works as a free-lance radio/television producer.