Uchafbwyntiau Diweddar

CANU YN Y FATICAN

 Fatican

Ddydd Sadwrn 18fed Ebrill, cyrhaeddodd Côr Caerdydd garreg filltir hanesyddol drwy ddod â “Gwlad y Gân” i’r Fatican. Mewn anrhydedd brin ac arwyddocaol, perfformiodd y Côr ddetholiad arbennig o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru yn ystod offeren ganol dydd yn yr eglwys fwyaf yn y byd, Basilica San Pedr.

Yn dilyn perfformiadau llwyddiannus ym Mhadua yn 2024, gwahoddwyd y côr i arddangos treftadaeth gorawl gyfoes gyfoethog Cymru yn Rhufain. Yn yr hyn a gredir yw’r tro cyntaf, cymeradwyodd swyddogion y Fatican repertoire yn cynnwys rhai o gyfansoddwyr mwyaf amlwg Cymru gan gynnwys Syr Karl Jenkins, Paul Mealor a Robart Arwyn. Cyfansoddwyd gwaith newydd sbon yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Geraint Owen.

Denodd ymweliad y côr sylw Llysgennad Prydain, Chris Trott i’r Sȇl Sanctaidd hefyd. Daeth y Llysgennad nid yn unig i weld y côr yn perfformio, ond gwahoddodd hefyd gynrychiolwyr o’r côr i gyfarfod ag ef ym mhreswylfa swyddogol y Llysgennad yn Rhufain.

Dywedodd Gwawr Owen, arweinydd Côr Caerdydd: “Roedd yn foment mor falch arwain y côr yn y Fatican ond yn bwysicach fyth roedd yn bleser mawr gweld faint roedd y profiad yn ei olygu i bob un ohonynt. Roedd gallu dod â cherddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig i’r lleoliad mawreddog hwn a’i rhannu â chynulleidfa ryngwladol yn rhywbeth arbennig iawn.

“Roedd hefyd yn fraint gweld y Llysgennad yn y gynulleidfa wrth i ni ganu yn ystod yr offeren a gwn fod y cynrychiolwyr o’r côr a gyfarfu ag ef yn y breswylfa, a chael y cyfle i ganu ychydig yno iddo, wedi’i ystyried yn uchafbwynt arall o’r daith.”

Roedd ymweliad y côr hefyd yn cynnwys cyngerdd ar y cyd â chôr o Rufain, Coro Voxel, yn Basilica Sang Eustachio. Er bod seddi’r Basilica yn llawn i’r ymylon, denodd sŵn y canu nifer o dwristiad ychwanegol i mewn i’r adeilad.

A chyn gadael Rhufain a chychwyn adref, rhoddodd y côr flas arall o Gymru trwy roi perfformiad byrfyfyr ym maes awyr Fiumicino i ddifyrru teithwyr oedd yn aros i ddal hediadau.

Fe gafodd ein cyfeilydd, Dafydd Huw brofiad arbennig o chwarae organ San Pedr a chyfeilio a’r Unawdwyr ar y daith oedd Emma Watt, Fflur Rhys, Aled Wyn Thomas ac Iwan Llechid Owen.

Sefydlodd Gwawr y Côr ym 1992, ac mae wedi arwain y côr byth ers hynny. Mae hi wedi trefnu sawl taith lwyddiannus dramor yn ddiwyd yn ystod y cyfnod hwn, ond roedd y profiad hwn yn rhagori ar bob disgwyl ac yn ddiamau yn goron ar y cwbl!

 

SINGING IN THE VATICAN

 On Saturday 18th April, Côr Caerdydd achieved a historic milestone by bringing the “Land of Song” to the Vatican. In a rare and significant honour, the Choir performed a specially chosen selection of music by Welsh composers during midday mass at the largest church in the world, St Peter’s Basilica.

Following successful performances in Padua in 2024, the choir was invited to showcase Wales’ rich contemporary choral heritage within the walls of the Vatican. In what is believed to be a first, Vatican officials approved a repertoire featuring some of Wales’ most prominent composers including Sir Karl Jenkins, Paul Mealor and Robart Arwyn. A brand new composition was composed especially for the occasion by Geraint Owen.

The choir’s visit also attracted the attention of the UK’s Ambassador to the Holy See, Chris Trott. The Ambassador not only came to see the choir perform, but also invited representatives from the choir to meet with him at the Ambassador’s official residence in Rome.

Gwawr Owen, conductor of Côr Caerdydd said: “It was such a proud moment to lead the choir at the Vatican but more importantly it was such a pleasure to see how much the experience meant to each and every one of them. To be able to bring music by Welsh composers to this prestigious venue and share it with an international audience was something very special.

“It was also such a privilege to see the Ambassador in the congregation while we sang during the mass and I know that the representatives from the choir who met him at the residence, and had the opportunity to sing a little there for him, considered it another highlight of the trip.”

The choir’s visit also included a joint concert with Rome-based choir Coro Voxel at the Basilica Sang Eustachio. While it was standing room only in the Basilica, the sound of the singing carried out on wings of song into the street and drew in many tourists who heard the performance as they were passing.

And just before leaving Rome and setting off home, the choir gave one more taste of Wales by delivering an impromptu performance at Fiumicino airport to entertain passengers waiting to catch flights.

Our accompanist, Dafydd Huw had an amazing experience playing the organ at St. Peter’s Basilica and the soloists on the trip were Emma Watt, Fflur Rhys, Aled Wyn Thomas and Iwan Llechid Owen.

Gwawr established the Choir in 1992, and has lead the choir ever since. She has diligently arranged several successful trips abroad during its’ 34 history, but this experience exceeded all expectations and was undoubtedly a crowning glory!

 

DATHLU 25 MLYNEDD THE ARMED MAN

 

 

Roedd dydd Sul 19 Hydref 2025 yn achlysur arbennig o freintiedig i Gôr Caerdydd wrth iddynt gamu
i’r llwyfan yn Neuadd Brangwyn, Abertawe i ganu The Armed Man:A Mass for Peace – perfformiad
dathlu pumed pen-blwydd ar hugain o’r gwaith hynod bwerus hwn. Yn camu i’r podiwm roedd y
cyfansoddwr ei hun, Sir Karl Jenkins. Mae’r Côr wedi cael yr anrhydedd o ganu’r gwaith hwn sawl
gwaith ers ei berfformiad cyntaf ar droad y ganrif, gyda Syr Karl yn arwain dros ddwsin ohonynt. Fel
arfer yn cael ei ganu gyda cherddorfa lawn, yr hyn a wnaeth yr achlysur hwn yn unigryw oedd
trefniant band pres, wedi’i berfformio’n feistrolgar gan Fand Aldbourne. Tystiolaeth o lwyddiant y
fenter oedd cymeradwyaeth gwresog gan gynulleidfa o dros fil o bobl.

 

25 YEARS OF THE ARMED MAN 


Sunday 19 th October 2025 was a particularly privileged occasion for Côr Caerdydd as they took to the
stage at the Brangwyn Hall, Swansea to perform The Armed Man: A Mass for Peace - a celebratory
twenty fifth anniversary rendition of this incredibly powerful work. Taking to the podium to lead the
Choir was the composer himself, Sir Karl Jenkins. The Choir has had the honour of singing this work
several times since its premiere at the turn of the century, with Sir Karl conducting over a dozen of
those performances. Usually accompanied by a full orchestra, what made this occasion unique was
a Brass band arrangement, masterly performed by the Aldbourne Band. Testament to the venture’s
success was a rousing standing ovation by a thousand strong attendees.

 

 

CÔR CAERDYDD YN ENNILL Y DWBL!

Ar ddydd Sadwrn cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, roedd wyth o gorau’n brwydro yn y Gystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru. Gosododd yr Arweinydd, Gwawr Owen, gryn her i’r Côr, gan fod y tri darn hunanddewisiad i gyd yn ddigyfeiliant. Dim piano felly i helpu’r cantorion, ond un fantais o hyn oedd bod y cyfeilydd, Dafydd Huw, yn medru ymuno â rhengoedd y baswyr! Cafwyd ymateb brwd gan y gynulleidfa, ac roedd yn amlwg fod y beirniaid hefyd yn wedi eu plesio, wrth i Gôr Caerdydd gyrraedd y brig a chipio’r wobr gyntaf. Dyma’r bedwaredd tro ar ddeg i’r Côr ennill yn y Genedlaethol, ac roedd deuddeg o’r aelodau gwreiddiol dal i ganu eleni, a chwech yn cystadlu am y tro cyntaf.

Y nos Sadwrn canlynol, ar ôl wythnos brysur o ddyletswyddau eisteddfodol, bu rhaid i Gwawr adael Y Maes, er mwyn paratoi i hedfan dramor yn gynnar y bore wedyn. A hithau ar fin camu ar y trên gartref o Bontypridd i’r ddinas, derbyniodd alwad ffôn, yn gofyn iddi ddychwelyd i Faes y Brifwyl ar fyrder, er mwyn derbyn gwobr arall - sef Côr Yr Ŵyl! Tipyn o gamp wrth ystyried fod 63 o gorau wedi cystadlu’n y gwahanol gategorïau’n ystod yr wythnos, a’r tro cyntaf i Gôr Caerdydd ennill y clod arbennig yma. Braf gwybod fod y Côr, sydd wedi bod yn brysur yn canu a chystadlu ers 1992, yn cael eu hystyried fel “Y Côr mwyaf addawol o blith holl gystadlaethau corawl yr Eisteddfod yn nhyb y beirniaid”!

Yn anffodus, oherwydd fod nifer o’r aelodau wedi cael eu heintio gan Covid yn ystod yr Ŵyl, nid oedd cyfIe i bawb ddathlu’r dwbl ar y Maes. 

Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn canu corawl, i ymuno gyda Chôr cymysg gorau Cymru! Am fanylion pellach, cysylltwch â'r Côr

 

CÔR CAERDYDD WIN THE DOUBLE!

On the opening Saturday of the 2024 Welsh National Eisteddfod at Rhondda Cynon Taf, a grand total of eight choirs competed in the Eisteddfodau of Wales Choral Competition. Côr Caerdydd’s Conductor, Gwawr Owen, set quite a challenge by choosing three unaccompanied pieces. No piano at hand to help the singers then, but one advantage was that their regular accompanist, Dafydd Huw was able to add his voice to support the Bassists! A very warm reception was given by The Pavilion audience, and the adjudicators were also obviously impressed as Côr Caerdydd won first prize. This was the fourteenth time for the choir to win at the National Eisteddfod, and twelve of the original members were on stage, as well as six new members competing for the first time.

On the following Saturday evening, after a packed schedule at the Eisteddfod, Gwawr had to leave early, to prepare for a flight abroad the following morning. Just as she was about to board the train from Pontypridd to Cardiff, she received an urgent phone call, asking if she could return to the Maes pronto, in order to receive another award – this time for the festival’s Choir of Choirs! No mean feat, considering that a grand total of sixty-three choirs had competed in a myriad of categories throughout the week. This was the first occasion for Côr Caerdydd to win this prestigious award. And it’s certainly heartening to be acknowledged by the adjudicators as “the most promising among all the choirs which competed in this year’s Eisteddfod” – especially considering that it’s been busy competing since 1992!

Unfortunately, by this point many members of the choir had caught the latest strain of the Covid virus, so it wasn’t possible to have a well-earned celebration on the field.

If anyone is interested in joining the best mixed choir in Wales, Côr Caerdydd is always ready to receive new members! For more details, please get in touch with the Choir

 

VIVA ITALIA!


Cwta dri mis ar ôl eu gwobrwyo’n Gôr yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, aeth Côr Caerdydd ar daith i’r Eidal, i gymeryd rhan flaenllaw yng Ngŵyl Carwyn James. Ar ôl blynyddedd llwyddiannus yn hyfforddi’r Scarlets, y Llewod a’r Barbariaid, gorffennodd Carwyn ei yrfa’n hyfforddi tim rygbi Rovigo. Mae gan drigolion y ddinas feddwl fawr ohono, ac wedi sefydlu’r Ŵyl er cof am eu harwr. ‘Roedd ganddo hefyd gariad at ganu, ac am gyfnod bu’n aelod o Gôr Poliffonig Caerdydd.


Ar ôl bore difyr yn crwydro Venice (a chanu impromptu o flaen y Basilica ar y Piazza San Marco i gynhesu’r lleisiau!) cynhalwyd y gyngerdd gyntaf yn Adria, gan rannu llwyfan gyda Chôr merched Coro Plinius. Ar yr ail ddiwrnod, cafodd y Côr gyfle i ymweld ậ’r Stadiwm ble bu Carwyn yn hyfforddi. Gyda’r nos, cynhaliwyd cyngerdd sanctaidd yn Eglwys Rovigo. Nid yn unig oedd cyfle i rannu llwyfan gyda Chôr Meibion Monte Pasubio Rovigobanca, ond hefyd y fraint o gael swper blasus wedi ei baratoi’n arbennig gan y cantorion eu hunain! Da’r hogia!


Ar y dydd Sadwrn, ar ôl cyfle i ymweld ậ Bologna, cynhalwyd cyngerdd ar y cyd gyda Corale Santa Maria Maggiore, mewn eglwys odidog yn Pieve di Cento. Cyflwynydd y noson oedd Menna Price, sy’n enedigol o Gaerdydd, ond bellach wedi ymgartrefu’n yr Eidal ers rhai blynyddoedd. Cafodd y Côr groeso anrhydeddus gan Faer y dref, ac yna gwledd arall o basta, a vino rosso lleol i’w olchi lawr!
Yn goron ar daith Hydrefol fythgofiadwy, braint amheuthun ar y Saboth oedd i’r Côr ymweld a Padua, a chymeryd rhan yn yr Offeren ym Masilica San Antonio. ‘Roedd cael y cyfle i gyd ganu’n Gymraeg a Lladin, mewn adeilad mor brydferth, yn brofiad ysgytwol, a daeth cymeradwyaeth gwresog o’r gynulleidfa.

 

ACCA

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, fe dderbyniodd Côr Caerdydd wahoddiad gan yr Association of Chartered Certified Accountants i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2025 yn eu brecwast blynyddol yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd. Y siaradwraig wadd oedd Rhian Wilkison, Hyfforddwraig Tîm Merched Cenedlaethol Cymru.


For the third year in succession, Côr Caerdydd were invited by the Association of Chartered Certified Accountants to celebrate St David’s Day 2025 at their annual breakfast in the Hilton Hotel, Cardiff. The choir sang several popular Welsh melodies, and the guest speaker was Rhian Wilkinson, head coach of the Wales women’s national football team.

 

 

Cymorth Cristnogol - Christian Aid

 

Braint ac anrhydedd i’r Côr oedd cael dathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2025 trwy ganu mewn cyngerdd i godi arian i Gymorth Cristnogol, yn yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf. Cawsom y pleser o rannu’r llwyfan gyda’r Tongwynlais Temperance Band, dan arweiniad Owen Farr. Arweinydd y noson oedd y darlledwr amryddawn Arfon Haines Davies.

Côr Caerdydd were delighted to celebrate St David’s Day 2025 in an evening concert at Llandaff Cathedral. The event was organised to raise money for the Christian Aid charity. It was a privilege for the Choir to share the stage with the Tongwynlais Temperance Band, and compere was the popular broadcaster Arfon Haines Davies.